DATGANIAD YSGRIFYNEDIG
GAN
LLYWODRAETH CYRMU
TEITL: |
Cyhoeddi adroddiad yn dilyn Adolygiad Annibynnol o Swyddogaethau a Rôl Comisiynydd Plant Cymru. |
DYDDIAD: |
10 Rhagfyr 2014 |
GAN: |
Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi |
Heddiw, rwyf wedi derbyn adroddiad yr Adolygiad
Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru gan
Dr Mike Shooter.
Atodir copi o’r adroddiad ynghyd â fersiwn arbennig i
bobl ifanc, gyda’r Datganiad hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys
cyfres o argymhellion eang ar gyfer Llywodraeth Cymru. Byddaf yn
ystyried y rhain yn fanylach gyda’r nod o wneud
datganiad arall, yn y Flwyddyn Newydd.
Hoffwn ddiolch i Dr Shooter am arwain yr adolygiad a diolch i'r
Comisiynydd Plant presennol a'i swyddfa, yn ogystal â’r
nifer sylweddol o rhanddeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc,
am eu cyfraniad rhagweithiol i'r adolygiad. Mae hyn yn dystiolaeth
o’r ffaith ein bod oll yn gweithio tuag at yr un nod, sef
cael Comisiynydd Plant i Gymru sydd mor gryf ac effeithiol â
phosibl, a fydd yn hyrwyddwr dros ein plant a phobl
ifanc.
http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/rights/commissioner/review-of-childrens-commissioner/?skip=1&lang=cy